Sophie Flood
Ymgynghorydd: Iechyd a Lles
Profiad
Mae Sophie wedi gweithio ym maes gwella ysgolion yn rhanbarthol er 2017 pan gafodd secondiad fel arweinydd dysgu. Yn ogystal â’i gwaith gyda Maes Dysgu a Phrofiad iechyd a lles mae Sophie yn cefnogi gyda’r rhaglenni ANG a thegwch a lles.
Dechreuodd ei gyrfa ym maes addysg yn 1996 ac mae wedi dysgu ar draws yr ystod oedran cynradd. Roedd yn rhan o uwch dîm arweinyddiaeth am 15 mlynedd mewn ysgol wledig yn Sir Benfro. Yn ystod y cyfnod hwn bu’n arwain ac yn cydlynu addysg gorfforol, ABCh ac ADY. Bu hefyd yn cyflwyno sesiynau Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewn Ysgolion yn ymwneud â bwyd a ffitrwydd i ysgolion eraill.
Mae wedi gweithio ochr yn ochr â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant fel mentor i athrawon dan hyfforddiant ac mae wedi bod yn uwch fentor yn ei hysgol.
Swyddog cyswllt clwstwr ar gyfer: Clystyrau Dyffryn Taf a Phenrhyn Dewi