Emma Wright

Ymgynghorydd: Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu


Profiad

Mae Emma wedi gweithio ym maes gwella ysgolion yn rhanbarthol er 2017 pan gafodd secondiad fel arweinydd prosiect TGAU Saesneg. Ers hynny mae wedi ymgymryd â rôl arweinydd dysgu Saesneg ac mae wedi cynrychioli consortia rhanbarthol fel arweinydd PISA.

Dechreuodd ei gyrfa ym maes addysg yn 2001 fel athrawes Saesneg/astudiaethau crefyddol/astudiaethau’r cyfryngau mewn ysgol gyfun i ddysgwyr 11-16 oed yn Abertawe. Mae wedi dal swyddi arwain Cydlynydd Llythrennedd a phennaeth Saesneg. Bu Emma yn gweithio ar lefel awdurdod lleol fel athrawes ymgynghorol llythrennedd gan weithio gydag ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Abertawe. Mae gan Emma hefyd brofiad fel arholwr TGAU Saesneg ac fel cymedrolwr ar gyfer TGAU astudiaethau’r cyfryngau.

Swyddog cyswllt clwstwr ar gyfer: Clystyrau Cefn Hengoed a Phentrehafod.


Ymgynghorwyr / Arweinwyr Prosiect

Llusgo