Stuart Jacob

Ymgynghorydd: Gwyddoniaeth a Thechnoleg


Profiad

Mae Stuart wedi gweithio ym maes gwella ysgolion yn rhanbarthol er 2017 pan gafodd ei benodi yn arweinydd gwyddoniaeth cynradd. Mae hefyd wedi bod yn arweinydd dros dro ar gyfer y cwricwlwm ac arloesi yn Partneriaeth.

Mae Stuart yn aelod o’r gweithgor traws-ranbarthol ar gyfer gwyddoniaeth a thechnoleg. Mae ganddo gyfrifoldeb am gydlynu’r gefnogaeth ranbarthol i Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau sy’n Gysylltiedig â Byd Gwaith ac mae’n gweithio mewn cysylltiad agos â Gyrfa Cymru i ddatblygu’r ddarpariaeth dysgu proffesiynol.

Mae gan Stuart 15 mlynedd o brofiad addysgu ac mae wedi dysgu ar draws yr ystod oedran mewn uned cyfeirio disgyblion ac mewn ysgolion cynradd. Mae Stuart wedi bod yn llywodraethwr mewn ysgol gynradd yn Llanelli am ddeng mlynedd ac mae wrthi’n gwneud cwrs MA (Addysg).

Swyddog cyswllt ar gyfer clystyrau Bryngwyn a Glan y Môr.


Ymgynghorwyr / Arweinwyr Prosiect

Llusgo