Lowri Davies
Ymgynghorydd: Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Profiad
Mae Lowri wedi gweithio ym maes gwella ysgolion yn rhanbarthol er 2019 ac mae’n cefnogi’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu a llythrennedd ysgol gyfan. Mae’n arwain ar lythrennedd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a’r rhaglen dysgu proffesiynol ar gyfer ymarferwyr Cymraeg mewn ysgolion uwchradd. Mae’n cynrychioli’r rhanbarth yn y grŵp Cymraeg traws-gonsortia.
Mae Lowri wedi gweithio ym maes addysg er 2008. Bu’n dysgu Cymraeg CA3-5 mewn ysgol uwchradd Gymraeg yn Sir Gâr am 10 mlynedd ac roedd yn bennaeth adran am bump o’r rhain. Mae wedi arholi ar lefel TGAU a Safon Uwch gyda CBAC.
Swyddog cyswllt clwstwr ar gyfer: Clystyrau’r Strade a Bryn Tawe