Joanne Hudson-Williams

Ymgynghorydd: Mathemateg a Rhifedd


Profiad

Mae Joanne wedi gweithio ym maes gwella ysgolion rhanbarthol er Ebrill 2023 ac mae’n arbenigwr mathemateg a rhifedd uwchradd.

Ar ôl graddio mewn geneteg feddygol, dechreuodd ei gyrfa mewn addysg yn 2008. Mae gan Joanne 15 mlynedd o brofiad o ddysgu mathemateg mewn ysgol uwchradd fawr i ddysgwyr 11-18 oed. Yn ystod y cyfnod hwn hi hefyd oedd y Cydlynydd Rhifedd a Chyfnod Allweddol 3. Mae wedi gweithio ochr yn ochr â’r Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg fel arweinydd grŵp, gyda Phrifysgol Abertawe â myfyrwyr TAR a gyda CBAC fel arholwr. Mae ganddi MA (Addysg) a oedd yn canolbwyntio ar ddatblygu disgwrs fyfyriol wrth ddysgu mathemateg ac mae wedi cwblhau diploma ôl-raddedig mewn arweinyddiaeth a rheolaeth yn ddiweddar. Mae Joanne yn Hyfforddwr Bywyd profiadol.

Swyddog cyswllt clwstwr ar gyfer: Clystyrau Emlyn a Dyffryn Aman


Ymgynghorwyr / Arweinwyr Prosiect

Llusgo