Adrian Smith

Ymgynghorydd: Gwyddoniaeth a Thechnoleg


Profiad

Mae Adrian wedi gweithio ym maes gwella ysgolion yn rhanbarthol er 2018.

Mae’n aelod o’r gweithgor traws-ranbarthol ar gyfer dysgu digidol ac mae ganddo gyfrifoldeb am gydlynu cefnogaeth ranbarthol ar gyfer Dysgu Digidol, Codio a Diogelwch Ar-lein.

Dechreuodd Adrian ei yrfa ym myd addysg yn 2004 fel athro cemeg uwchradd. Yna trosglwyddodd i’r sector cynradd lle bu’n cydlynu gwyddoniaeth a thechnoleg ac yn gweithredu’r newidiadau a’r hyfforddiant angenrheidiol sydd ei angen oherwydd y ffrwydrad mewn technoleg ddigidol. Yn ystod y cyfnod hwn bu’n ddirprwy bennaeth am 12 mlynedd ac yn bennaeth dros dro am dros flwyddyn.

Cyn ymuno â’r proffesiwn addysg bu Adrian yn gweithio yn y diwydiant gwyddoniaeth ddiwydiannol ac roedd ganddo ei fusnes llwyddiannus ei hun.

Swyddog cyswllt ar gyfer clystyrau Pontarddulais a’r Esgob Gore


Ymgynghorwyr / Arweinwyr Prosiect

Llusgo