Ann Davies
Uwch Ymgynghorydd Strategol
Profiad
Ann yw'r Uwch-ymgynghorydd Strategol ar hyn o bryd sydd â chyfrifoldeb am effaith a gwerthuso o ran cynnig dysgu proffesiynol a chymorth Partneriaeth. Hi hefyd yw'r Uwch-ymgynghorydd Strategol cyswllt ar gyfer awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin. Dechreuodd ei gyrfa ym myd addysg yn 1998 fel athrawes ysgol gynradd ac mae wedi addysgu ac ymgymryd â swyddi arwain mewn ysgolion cynradd Cymraeg a Saesneg yn Sir Gaerfyrddin.
Cafodd ei secondio i awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin i fod yn athrawes ymgynghorol ar gyfer dysgu teuluol, ac wedi hynny aeth ymlaen i fod yn Ymgynghorydd Hyfforddiant a Chymorth Cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen. Mae wedi darparu hyfforddiant amrywiol ar y Cyfnod Sylfaen i ysgolion a lleoliadau addysg ledled Cymru trwy CYDAG. Er 2016 mae Ann wedi bod yn bennaeth ar ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg fawr. Mae Ann hefyd yn Arolygydd Ychwanegol profiadol gydag Estyn.