Greg Morgan

Uwch Ymgynghorydd Strategol


Profiad

Greg yw’r Uwch Ymgynghorydd Strategol presennol sy’n gyfrifol am gefnogi ysgolion clwstwr ac ysgolion unigol ar draws Partneriaeth. Ef hefyd yw’r Uwch Ymgynghorydd Strategol cyswllt ar gyfer awdurdod lleol Sir Benfro. 

Mae wedi gweithio ym maes gwella ysgolion er 2004 pan gafodd ei secondio i awdurdod lleol Sir Gâr fel athro ymgynghorol TGCh, gan fynd ymlaen wedyn i fod yn ymgynghorydd cyswllt TGCh. Yn 2015 cafodd ei benodi yn arweinydd rhanbarthol dysgu digidol. Mae Greg wedi gweithio ym maes addysg am bron i 30 mlynedd ac mae wedi dysgu mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a Saesneg. 


Uwch Ymgynghorwyr Strategol

Llusgo