Y llwybr - Darparu llwybr clir i ddysgu awyr agored

Ychwanegwyd:

Outdoor learning.png
  • Golygfeydd 1629

Mae bod yn yr awyr agored yn rhan hanfodol o blentyndod, ond er hyn mae plant yng Nghymru yn treulio llai a llai o amser yn yr awyr agored. Mae'r dystiolaeth yn glir – mae bod yn yr awyr agored yn gwella ein lles meddyliol a'n hiechyd corfforol. Mae cysylltu â natur yn gwella ein hwyliau, yn lleihau straen, yn gwella galluedd meddyliol, ac yn hyrwyddo gweithgarwch corfforol.