Strategaethau Adolygu ar gyfer Dysgwyr Mwy Abl a Thalentog

Ychwanegwyd:

shutterstock_503426086.jpg
  • Tagiau
  • Tag Newyddion
  • Tag Mwy Abl a Thalentog
  • Golygfeydd 1198

Mae’n bleser gan y grŵp mwy abl a thalentog Consortia Addysg ddarparu gweminar wedi’i recordio ymlaen llaw i gefnogi athrawon i gyfoethogi eu strategaethau adolygu ar gyfer dysgwyr MAT wrth baratoi am eu arholiadau sydd i ddod.

Bydd sicrhau bod gan ein ddysgwyr dechnegau er mwyn adolygu’n effeithiol yn allweddol wrth gefnogi eu hanghenion a gwneud y mwyaf o’u cyfle i lwyddo. Bydd y gweminar yn rhannu technegau seiliedig ar ymchwil sy’n cefnogi pob dysgwr ond yn arbennig dysgwyr mwy abl a thalentog.

Rhaid i ni hefyd fod yn ymwybodol o gefnogi lles disgyblion MAT gan bod eu hangen am berffeithrwydd yn gallu achosi pwysau a gofid i’r dysgwyr. Gall pobl â pherffeithiaeth fesur eu hunain yn erbyn safonau amhosib o uchel.

Maent o’r farn nad yw’r hyn a wnaent byth yn ddigon da. Mae’n hanfodol ein bod yn eu cynorthwyo wrth baratoi cymaint â phosib. Bydd y sesiwn yn cefnogi’r meysydd canlynol: • Adolygu • Nodweddion y Dysgwr Mwy Abl • Sgema • Datblygu Pecyn Cymorth o Dechnegau Adolygu

Bydd hefyd yn archwilio dysgu cymysg (interleaving), y gromlin anghofio a’r cloc adolygu