Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Gweithredu’r Cwricwlwm

Ychwanegwyd:

welsh gov 1 .gif
  • Tagiau
  • Tag Cwricwlwm i Gymru
  • Golygfeydd 1505

Bydd y Rhwydwaith Cenedlaethol yn cynnig cyfle i bob ymarferydd sydd â diddordeb gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu ar y cyd i fynd i'r afael â heriau a chyfleoedd cyffredin.

Bydd y Rhwydwaith Cenedlaethol yn dod â gweithwyr addysgu proffesiynol, arbenigwyr, rhanddeiliaid, gwneuthurwyr polisi a phartneriaid, gan gynnwys consortia rhanbarthol ac Estyn galluogi at ei gilydd er mwyn nodi a mynd i’r afael â’r rhwystrau a’r cyfleoedd mewn perthynas â gweithredu Cwricwlwm Cymru.

Yn dilyn sgyrsiau’r hydref bydd y Rhwydwaith yn cynnal 3 sgwrs gyda themâu newydd yn ystod tymor y gwanwyn 2022, sef cynllunio cwricwlwm, diwygio cymwysterau ac Hanes Cymru, gan gynnwys hanes Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.