Cwricwlwm i Gymru

Ychwanegwyd:

CfW Cycle.png
  • Tagiau
  • Tag Cwricwlwm i Gymru
  • Tag MDaPh
  • Golygfeydd 4844

Er mwyn cefnogi ysgolion wrth iddynt ddechrau datblygu a mireinio eu cwricwlwm, mae tîm cwricwlwm y Bartneriaeth wedi datblygu model cylchol pum cam y gellir ei ddefnyddio fel canllaw cyfeirio. Mae’n bwysig atgoffa ein hunain ar y pwynt hwn nad yw hwn yn gwricwlwm cenedlaethol yn yr ystyr y bydd cwricwlwm rhagnodol parod yn cael ei ddarparu rywbryd. Mae Cwricwlwm i Gymru i’w ystyried yn fframwaith sy’n amlinellu’r disgwyliadau ar gyfer pob ysgol a lleoliad yng Nghymru, ac sy’n rhoi’r annibyniaeth a’r asiantaeth i chi fel ymarferwyr i gynllunio cwricwlwm a fydd yn unigryw i’ch dysgwyr. 

Mae’r canllawiau presennol yn sôn am adeiladu cenedl o ddylunwyr cwricwlwm ac, er y gall hyn ymddangos yn frawychus, mae’n wir y byddwch i gyd yn arwain y newid hwn yn eich rôl yn eich ysgol. Mae'n haws delio ag ymgymeriad mor fawr os caiff ei rannu'n gamau llai y gellir eu rheoli. Dyna pam y gallwch  ddefnyddio ein model gylchol, grisiog yn gyfan gwbl neu'n ddetholus yn eich dyluniadau eich hun. Mae’r ffordd yr ewch ati yr un mor bwysig â’r hyn y byddwch yn ei gynhyrchu, ac felly bydd cydweithio ag eraill bob cam o’r ffordd yn hanfodol. 

Rydym yn awgrymu’r dull hwn, fel un llwybr posibl o’r weledigaeth i’r ystafell ddosbarth: 

1. Penderfynu gyda'ch gilydd beth rydych chi ei eisiau ar gyfer eich dysgwyr. 

2. Unwaith y byddwch wedi cytuno ar yr hyn yr ydych ei eisiau ar gyfer eich dysgwyr, y cam nesaf fyddai penderfynu beth yr hoffech iddynt ei ddysgu. 

3. Unwaith y bydd y dysgu wedi'i nodi, trafodwch  beth yw’r cynnydd yn y dysgu hwnnw. 

4. Penderfynwch ble yw'r lle gorau i'r dysgu hwn ddigwydd. 

5. Y cam olaf yw dewis cyd-destunau ar gyfer y dysgu a gobeithio y bydd gennych gwricwlwm yn ei le sy'n gwireddu gweledigaeth eich ysgol.