Carlam Cymru 2021-2022

Ychwanegwyd:

MicrosoftTeams-image (1).png
  • Tagiau
  • Tag Newyddion
  • Golygfeydd 2299

Bydd Carlam Cymru yn dychwelyd ar gyfer 2021/22 gyda sesiynau byw ar gael i fyfyrwyr TGAU yn ystod yr Hydref, a myfyrwyr TGAU, Uwch Gyfrannol, a Safon Uwch yn y Gwanwyn. Bydd y digwyddiadau byw yn ystod tymor yr Hydref yn rhedeg ar ôl ysgol am bedair wythnos, gan ddechrau ar 15fed Tachwedd, a byddant yn canolbwyntio ar y pynciau craidd – Amserlen Hydref.

 

Bydd myfyrwyr ledled Cymru yn gallu cael mynediad AM DDIM i’r digwyddiadau byw hyn gartref, a byddant hefyd yn cael eu recordio a’u rhoi ar wefan e-sgol. Gall ysgolion, athrawon a myfyrwyr ddefnyddio’r digwyddiadau byw yma i atgyfnerthu ac adolygu’r gwaith sydd wedi’i gwblhau yn eu hysgolion.