Blether Rhyngwladol: ‘Disgleirio Golau ar Arweinyddiaeth Ganol’

Ychwanegwyd:

download (1).jpg
  • Tagiau
  • Tag Arweinyddiaeth
  • Tag Arweinyddiaeth Ganol
  • Golygfeydd 1399

Dydd Llun 22 Tachwedd 4-5pm

Mae arweinwyr canol yn rhan annatod o amgylchedd yr ysgol, o reoli perthnasoedd i weithredu newid. Gall swyddi arweinwyr canol fod yn ffurfiol ac yn anffurfiol ond efallai na fydd yn bosibl creu un model cyffredinol o arweinyddiaeth ganol, felly pwy yw’r arweinwyr canol a sut wnaethon nhw gyrraedd yno?

Ymunwch â’n Blether Rhyngwladol a chlywed gan chwe arweinydd canol o bob rhan o Iwerddon, yr Alban a Chymru wrth iddynt rannu eu meddyliau, eu profiadau a’u heriau o’u rolau, a’u mewnwelediadau ar sut y daethant yn arweinwyr canol. Mae’r Blether Rhyngwladol hwn wedi’i gynllunio ar gyfer holl ymarferwyr addysgol, gwaeth beth fo’u cyfnod gyrfa neu eu sefydliad.

Cydweithrediad Tair Gwlad rhwng Canolfan Arweinyddiaeth Ysgolion, Iwerddon, Addysg yr Alban a’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru.