Helen Lewis

Rheolwr Adnoddau Dynol


Profiad

Mae Helen wedi gweithio ym maes gwella ysgolion yn rhanbarthol er 2018.  Mae’n cyfarfod yn rheolaidd â thimau adnoddau dynol yr Awdurdod Lleol i ddatblygu polisi, canllawiau a phecynnau hyfforddi rhanbarthol. Mae hefyd yn cadeirio cyfarfodydd y fforwm Undebau Llafur. Ar hyn o bryd mae’n rhan o weithgor y Llywodraeth sy’n adolygu canllawiau Rheoli Perfformiad ar ôl datblygu pecyn polisi a hyfforddiant rhanbarthol newydd ar ddatblygu perfformiad i Arweinwyr, Athrawon a Staff Cymorth.   

Mae Helen wedi gweithio ym maes adnoddau dynol ers dros 20 mlynedd. Mae wedi gweithio ym maes llywodraeth leol er 2012 ac mae ganddi brofiad o weithio mewn Adran Gofal Cymdeithasol ac mewn Adran Addysg. Mae Helen yn aelod o’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD).


Cymorth Busnes

Llusgo