Carol Jeffreys

Arweinydd Prosiect – Cynefino a Chefnogaeth Gyrfa Gynnar


Profiad

Mae Carol wedi bod yn ei swydd er 2021. Mae wedi cadw ei rôl Gwiriwr Allanol ar gyfer clwstwr o ysgolion yn Abertawe ac mae’n Fentor Allanol i athrawon llanw tymor byr. Mae’r ddwy rôl yn ei galluogi i gynnal gwybodaeth a dealltwriaeth gyfredol o anghenion dydd i ddydd ANG Partneriaeth.

Dechreuodd Carol ei gyrfa ym myd addysg yn 1996 fel athrawes mewn ysgol gynradd yn Abertawe ac aeth ymlaen i fod yn aelod o’r uwch dîm arwain lle cafodd brofiad o ymgymryd â rôl dirprwy bennaeth dros dro. Hi oedd yr uwch fentor ar gyfer yr ysgol a bu’n cefnogi athrawon dan hyfforddiant, athrawon newydd gymhwyso a chynlluniau lleoliad profiad gwaith eraill yn llwyddiannus.


Arweinyddiaeth a Llwybrau Gyrfa

Llusgo